Y Pwyllgor Cyllid
Finance Committee
|
|
David Rees AC Cadeirydd Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
|
29 Ionawr 2015 |
Annwyl David
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 21 Ionawr 2015, trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).
Ar y cam hwn, ni fydd y Pwyllgor yn ymgymryd ag unrhyw waith craffu ariannol pellach mewn perthynas â'r Bil. Tra byddwch yn craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil, hoffem ofyn ichi ystyried y goblygiadau ariannol ac os byddwch yn teimlo bod goblygiadau ariannol y dylem fod yn ymwybodol ohonynt y gallai fod yn werth i'r Pwyllgor graffu arnynt ymhellach, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod imi.
Er i'r Pwyllgor gytuno i beidio ag ymgymryd ag unrhyw waith craffu pellach, roedd yr Aelodau'n pryderu y byddai'r rhan fwyaf o gostau'r Bil yn deillio o reoliadau ac nid oes llawer o fanylion yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ynglŷn â hyn, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech ystyried hyn fel rhan o'ch gwaith craffu ehangach.
Byddaf yn anfon copi o'r llythyr hwn at Kirsty Williams, sef yr Aelod sy'n gyfrifol.
Yn gywir
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd